Cynhadledd 2023
Harmoni wrth Galon Lles

15-16 Ebrill 2023
Campws Llambed Y Drindod Dewi Sant

uwtsd-chinese-wellbeing-website-wales-trinity-st-davids-qi-gong-Green-big-leaves

Harmoni wrth Galon Lles: Qigong, Tai Chi, a Chelfyddydau Hunanofal Tsieineaidd

Mae’r gynhadledd hon yn dwyn ynghyd academyddion, therapyddion proffesiynol ac ymarferwyr lleyg ymmaes arferion llesiant Tsieineaidd.

Mae’n archwilio rôl ganolog Harmoni yn y model llesiant Tsieineaidd, a sut mae’r egwyddor hon yn ymestyn y tu hwnt i’r arferion eu hunain i bryderon ehangach ynghylch sut rydym yn meithrin ein perthynas â natur a chymdeithas.

Mae themâu’r gynhadledd yn cynnwys y canlynol:

  • Athroniaeth a meddygaeth Tsieineaidd: sylfaen arferion hunanofal
  • Datblygiad modern hunanofal: ymddangosiad qigong meddygol yn Tsieina
  • Taiji a qigong: yr ymarferydd Gorllewinol a’r ymchwil am les; rôl ymwybyddiaeth ofalgar mewn symudiad myfyriol
  • Ymchwil: rôl gwyddoniaeth a thechnoleg mewn astudiaethau yn y Gorllewin a Tsieina
  • Addysgeg: sut rydym yn dysgu meithrin lles; rôl yr athro; dilysrwydd ymarfer; yr esblygiad
  • Trem i’r dyfodol: ffynnu’n bersonol, byw’n gytûn, cymdeithas a natur

Partneriaid y Gynhadledd

Mae’r gynhadledd hon yn gydweithrediad rhwng Athrofa Confucius a Menter Iechyd yr Athrofa Harmoni. Mae’r naill athrofa a’r llall yn y brifysgol yn rhannu diddordeb cyffredin mewn archwilio cyfraniad pwysig arferion lles Dwyrain Asia i ddeall y sail ar gyfer iechyd a ffyniant pobl. Mae’r gynhadledd yn darparu llwyfan ar gyfer rhannu a mynd i’r afael â’r gwahanol ysgolion meddwl, ymarfer a thraddodiad mewn taiji, qigong a hunanofal Tsieineaidd.

Tystysgrif Presenoldeb

Cynigir tystysgrif presenoldeb i’r cynrychiolwyr hynny sy’n mynychu’r gynhadledd fel rhan o’u DPP.

  • Cymryd rhan mewn cynhadledd ryngwladol gydag arbenigwyr blaenllaw o’r DU a Tsieina
  • Cipolwg ar y safbwyntiau diweddaraf ar rôl arferion hunanofal Tsieina megis qigong meddygol, taiji ac arferion eraill sy’n ffynnu mewn bywyd Tsieineaidd gan brif siaradwyr arbenigol
  • Y cyfle i ymgysylltu â’r egwyddorion, damcaniaethau ac athroniaethau sylfaenol sydd wedi llunio arferion qigong, taiji, ac yangsheng
  • Cyfleoedd i drafod gydag arbenigwyr sut mae arferion hunanofal yn llywio’r gwaith o ffynnu polisi lles a gofal iechyd
  • Cymryd rhan mewn gweithdai i brofi arferion megis qigong, taiji, seremoni te Tang Mi a rhagor
  • Pecyn cynhadledd llawn gan gynnwys y llyfryn Termau Allweddol Llesiant Tseiniaidd
  • Tystysgrif presenoldeb
  • Mynediad i recordiadau o sgyrsiau a gweithdai i’w hadolygu yn hamddenol