Cynhadledd 2023
Harmoni wrth Galon Lles

uwtsd-chinese-wellbeing-website-wales-trinity-st-davids-conference-harmony-wellbeing-bridging-cultures-landscapes-conference-picture-john-millar

John Millar

Mae John Millar yn ymarferydd Qigong ac yn eiriolwr Meddygaeth Integreiddiol. Ar ôl cael ei gyflwyno i Qigong yn 1997, mae John wedi astudio mewn saith arddull wahanol o qigong gyda rhai o’r athrawon uchaf eu parch yn Ewrop, Tsieina ac Awstralasia. Er ei fod yn gymwys i ddysgu mewn 4 o’r systemau hyn, bellach mae’n ymroi’n llwyr i arfer Zhineng Qigong. Er bod gwaith craidd John yn canolbwyntio ar arfer pur Zhineng Qigong, mae wedi ennill enw da rhyngwladol am ei waith gydag ystod eang o gleientiaid am ddefnyddio qigong i ddatblygu arweinyddiaeth, sgiliau cyfathrebu a mentora. Yn ogystal â hyn, mae’n ddylanwadwr gyda’r Coleg Meddygaeth ac yn siaradwr rheolaidd mewn cynadleddau Gofal Iechyd Integreiddiol ar ddefnyddio Qigong mewn Meddygaeth Integreiddiol.