Hunan-ofal Tsieineaidd
中国养生
Mae gan Athrofa Confucius ym Mhrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant ffocws unigryw ar arferion hunan-ofal Tsieineaidd (养生 yangsheng) ac arferion llesiant.
Dros y bymtheng mlynedd ddiwethaf, rydym wedi gweithio gydag anrywiaeth o bartneriaid i ddod â gwybodaeth arbenigol am arferion llesiant Tsieineaidd i’r DU. Mae ein gwaith wedi cynnwys darlithoedd, seminarau, a chynadleddau sy’n archwilio athroniaeth a chymhwyso disgyblaethau ymarferol megis qigong meddygol, taiji, alcemeg fewnol Daoaidd, a meddygaeth Daoaidd.
Ein nod yw hwyluso dealltwriaeth ddyfnach o lesiant Tsieineaidd a thraddodiadau hunan-ofal a sut maen nhw’n parhau i esblygu ac addasu i anghenion newidiol pobl ar draws y byd heddiw. Mae ein cyrsiau, ymchwil a gweithdai yn darparu cyfarfyddiadau ysgogol rhwng academyddion Tsieina a Phrydain, athrawon proffesiynol, ac ymarferwyr qigong, taiji ac arferion hunan-ofal eraill.